Ffrydiau tawel, byw, rhedegog, O tàn riniog tŷ fy Nuw, Sydd yn llanw ac yn llifo O fendithion o bob rhyw; Dyfroedd gloyw fel y grisial I olchi'r euog, nerthu'r gwan, Ac a gana'r Ethiop dua' Fel yr eira, yn y man. O am yfed yma beunydd Ffrydiau'r iechydwriaeth fawr, Nes fy nghwbl ddisychedu Am wiwedig bethau'r llawr: Môr didrai o bob trugaredd Ydyw'r iechydwriaeth lawn, Lanwod ac a lifodd allan Ar Galfaria un prydnawn.Ann Griffiths 1776-1805 Tôn [8787D]: Hyfrydol (Rowland H Prichard 1811-87) gwelir: O rhwyga'r tew gymylau duon Pechadur aflan yw fy enw Rhwyga'r tew gymylau duon |
Quiet, living, running streams, From under the threshold of my God's house, Are flooding and flowing With blessings of every kind; Bright waters like the crystal To wash the guilty, strengthen the weak, And which will bleach the blackest Ethiopian Like the snow, soon. O to drink here daily The stream of great salvation, Until my thirst is completely quenched For the vacillating things of earth: So unebbing of every mercy Is the full salvation, That flooded and flowed out On Calvary one afternoon.tr. 2018 Richard B Gillion |
|